P-05-1042 Rhaid cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ystod cyfnodau clo lleol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charlotte Louise Griffiths, ar ôl casglu cyfanswm o 1,070 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae cyfnodau clo lleol yn cael effaith sylweddol ar fusnesau bach a chanolig.

Drwy atal cwsmeriaid rhag cael mynediad at fannau glan a chyfyngedig (sy’n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws), rydych yn rhwystro ein cwsmeriaid rhag ymweld â ni.

Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar ein busnesau—effeithiau a fydd yn drychinebus os ydynt yn parhau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym ni yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ddiogel.

Rydym yn gwirio tymheredd cwsmeriaid.

Rydym yn glynu wrth y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) llawn.

Rydym yn defnyddio system apwyntiadau “un i mewn, un allan”.

Er gwaethaf hyn, mae cyfnodau clo lleol yn lleihau ein sylfaen cwsmeriaid hyd at 80 y cant.

Mae gennym filiau cyfleustodau, cyflogau a rhenti llawn i'w talu o hyd.

Caniateir i ni fynd i mewn i gartref cwsmer mewn man sy’n destun cyfnod clo lleol—man nad yw’n ddiogel, felly, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, ni chaniateir i’r un cwsmer ddod i mewn i'n salonau ni.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod ein diwydiant ni fel diwydiant diogel sydd wedi’i reoleiddio.

Fel diwydiant, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein salonau yn ddiogel, yn cydymffurfio â’r rheolau, yn lan ac yn ddiogel i'r cyhoedd fynd i mewn iddynt.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru